Fighting fund banner

 

E-bost Cymru: 23 Mawrth 2021 / Wales email 23 March 2021

23 March 2021

Yn e-bost heddiw:

  1. Digwyddiad Datblygiad Proffesiynol Parhaus Cenedlaethau'r Hinsawdd Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru

  2. Llywodraeth Cymru - Canllawiau ar gyfer gweithredu dysgu ôl-16 yn ddiogel rhwng 12 Ebrill 2021

  3. Cymorth Addysg

1. Digwyddiad Datblygiad Proffesiynol Parhaus Cenedlaethau'r Hinsawdd Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru
Yn dilyn llwyddiant digwyddiadau'r Undeb Prifysgolion a Cholegau ynghylch Cyflwyno Cynaliadwyedd ac Ymgorffori Addysg Newid Hinsawdd yn y Cwricwlwm ym mis Ionawr, rydym bellach yn gwahodd aelodau gweithredol canghennau, aelodau eraill a'r rhai nad ydynt yn aelodau i'r digwyddiad ar-lein diweddaraf gan yr Undeb Prifysgolion a Cholegau, sef Datblygiad Proffesiynol Parhaus Cenedlaethau'r Hinsawdd:

  • Dyddiad: Dydd Mercher 21 Ebrill

  • Amser: 14:00 i 15:00

  • Lleoliad: ar-lein (Zoom)

Os ydych yn addysgu neu'n cefnogi addysgu mewn coleg neu brifysgol, mae'r digwyddiad hwn i chi am y bydd yn rhoi cyfle i chi drafod pethau y gallwch eu gwneud i helpu i hyrwyddo agenda Cenedlaethau'r Hinsawdd yn eich gweithle. Caiff y digwyddiad DPP ei arwain gan Graham Petersen sy'n aelod o Grŵp Llywio'r Gynghrair Swyddi Gwyrddach sy'n dwyn ynghyd gyrff anllywodraethol, undebau llafur a sefydliadau myfyrwyr. Mae'r Gynghrair wedi gweithio ar amrywiaeth o fentrau i hyrwyddo addysg ar gyfer swyddi a datblygu cynaliadwy. Mae Graham wedi ysgrifennu amrywiaeth o gyhoeddiadau ar newid yn yr hinsawdd i TUC Cymru a Phrydain.  Mae'n aelod o'r Undeb Prifysgolion a Cholegau a bu gynt yn gweithio fel ein Cydlynydd dros yr Amgylchedd. Mae hefyd wedi cynrychioli 'Education International', sef y ffederasiwn undebol byd-eang o fwy na 30 miliwn o weithwyr yn y sector addysg, yng nghynadleddau hinsawdd y Cenhedloedd Unedig. Rydym yn mawr obeithio y bydd amser gennych i ddod i'r digwyddiad hwn. Cofrestrwch yma.

2. Llywodraeth Cymru - Canllawiau ar gyfer gweithredu dysgu ôl-16 yn ddiogel rhwng 12 Ebrill 2021
Darllenwch y canllawiau yma.

3. Cymorth Addysg
Weithiau gall gwaith (neu fywyd yn gyffredinol) fod yn anodd, ac mae'r rheini sy'n gweithio ym myd addysg yn teimlo'r straen. Os byddwch chi'n teimlo eich bod wedi'ch gorlethu, dan straen, yn orbryderus, yn isel, neu os bydd gennych broblemau personol neu ariannol, mae'n bosib y gall Cymorth Addysg eich helpu. Gall Cymorth Addysg gynnig help a chymorth cyfrinachol yn rhad ac am ddim, waeth beth fo'r broblem, mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys;

  • Cymorth a chwnsela dros y ffôn

  • Cymorth dros e-bost a Sgwrsio byw

Mae'r llinell gymorth yn rhad ac am ddim ac ar gael i bob darlithydd ac aelod o staff ym maes addysg bellach neu addysg uwch yng Nghymru, bob awr o'r dydd a phob diwrnod o'r flwyddyn. I ddysgu mwy amdanynt a'r gwasanaethau eraill sydd ar gael, ewch i'r wefan. Neu ffoniwch Cymorth Addysg ar 08000 562 561 i gychwyn y sgwrs. Mae'n iawn i beidio â bod yn iawn, ond peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun. Mae help ar gael drwy ffonio neu glicio!

Mewn undod

UCU Cymru


In today's email:

  1. UCU Wales climate generations CPD event

  2. Welsh government - guidance for safe operation of post-16 learning from 12 April 2021

  3. Education Support

1. UCU Wales climate generations CPD event
Following on from the success of UCU introducing sustainability and embedding climate in the curriculum events in January, we are now inviting branch activists, members and non-members to our latest online climate generations CPD event:

  • Date: Wednesday 21 April

  • Time: 14:00 to 15:00

  • Venue: online (Zoom)

If you teach or support teaching in a college or university setting, this event is for you and as it will give you the opportunity to discuss things that you can do to help move the climate generations agenda forward in your workplace. The CPD event will be led by Graham Petersen who is a member of the Greener Jobs Alliance steering group which is a coalition of NGOs, trades unions and student organisations. The GJA has worked on a range of initiatives to promote education for sustainable development and jobs. Graham has written a range of climate change publications for the British and Wales TUC. He is a member of UCU and was previously our environment co-ordinator. He has also represented Education International, the global union federation of over 30 million workers in the education sector, at UN climate conference events. We very much hope that you will be able to find the time to attend this event. Register here.

2. Welsh government - guidance for safe operation of post-16 learning from 12 April 2021
Read the guidance here.

3. Education Support
Sometimes work (or just life) can be tough and there are many stresses for those who work in education. If you are feeling overwhelmed, stressed, anxious, depressed or if you have personal issues or financial difficulties, Education Support may be able to help. Education Support can offer free, confidential help and support, no matter what the problem is, in a number of ways, including;

  • Telephone support and counselling

  • Email support and live chat

The helpline is free and available to all lecturers and staff in further or higher education in Wales, 24/7, 365 days a year. To find out more about these and the other services available, visit the website or ring ES on 08000 562 561 to get the ball rolling. It's OK not to be OK, but don't suffer alone. Help is just a call, or click, away!

In solidarity,

UCU Wales

Last updated: 23 March 2021