Fighting fund banner

 

Wales email: 27 November 2018

27 November 2018

Welcome to the all-new Wales Tuesday email.

For some time, members in Wales have been asking for a UCU communication that gives them information specifically about what is happening in Wales - so here it is!

This doesn't replace the Friday email, in terms of what is happening in UCU nationally, but it should make it easier for members to keep up to date with what is happening here in Wales.

In today's email:

  1. Meeting with ColegauCymru 16 November 2018 (CC)

  2. Minister's statement in plenary 20 November 2018

  3. Strike dates (if needed)

  4. Education Workforce Council (EWC)

1. Meeting with ColegauCymru 16 November 2018 (CC)
Your negotiators met with CC, the principal's group, to discuss pay on a single item agenda. We heard from CC that they had lobbied the Welsh government for additional funding to maintain pay parity with school teachers, but as yet they had not received any update from the government about additional funding. 

2. Minister's statement in plenary 20 November 2018
Eluned Morgan, the minister for Welsh language and lifelong learning, made a statement about the review of further education funding. At the end of her speech she announced that the government were committed to funding pay parity with school teachers for this year and next year, 2018/19 and 2019/20. As a result of the minister's statement we have been offered two dates next week, 28 and 29 November to meet with the employers. We are hopeful that we will receive a revised offer on pay and that they will also address the issue of workload.

3. Strike dates (if needed)
Despite the announcement we still need to await a revised offer from the employers and therefore planning for all eventualities needs to continue. Further education sector committee (FESC) decided at its meeting on Saturday 17 November to issue an industrial action notice to your employer over pay and workload. The first day of strike will be 4 December, followed by 13 and 14 December if the disputes are not resolved. Please support the call to action.

4. Education Workforce Council (EWC)
The EWC are consulting on a new code of professional conduct and practice. We will be responding to this consultation, especially on the issue of comparability of conduct inside and outside the workplace in their disciplinary procedures. Please take five minutes to read it - it may impact on you some day and you may risk losing your license to practice, which will end your career in FE.


Croeso i e-bost newydd Cymru ar ddydd Mawrth.

Mae aelodau yng Nghymru wedi bod yn gofyn am e-bost gan UCU sy'n rhoi gwybodaeth iddynt ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru yn benodol - felly dyma fe!

Nid yw hwn yn disodli e-bost ddydd Gwener, o ran yr hyn sy'n digwydd yn UCU yn genedlaethol, ond dylai ei gwneud yn haws i aelodau gael y newyddion diweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yma yng Nghymru.

Yn e-bost heddiw:

  1. Cyfarfod â ColegauCymru ar 16 Tachwedd

  2. Datganiad y Gweinidog mewn cyfarfod llawn 20 Tachwedd   

  3. Dyddiadau Streicio     

  4. Cyngor y Gweithlu Addysg

1. Cyfarfod â ColegauCymru 16 Tachwedd 18 (CC)
Gwnaeth eich cyd-drafodwyr gwrdd â CC, grŵp y pennaeth, i drafod tâl ar agenda un eitem. Clywsom gan CC eu bod wedi lobïo Llywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol i gynnal cyflog cyfartal ag athrawon ysgol, ond hyd yn hyn, nid ydynt wedi cael unrhyw ddiweddariad gan y llywodraeth ynglŷn â chyllid ychwanegol.

2. Datganiad y Gweinidog mewn cyfarfod llawn 20 Tachwedd 2018
Gwnaeth Eluned Morgan, Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a'r Gymraeg, ddatganiad am yr adolygiad gyllido addysg bellach. Ar ddiwedd ei haraith, cyhoeddodd fod y llywodraeth yn ymrwymedig i gyllido cyflog cyfartal ag athrawon ysgol ar gyfer y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf, 2018/19 a 2019/20. O ganlyniad i ddatganiad y Gweinidog, rydym wedi cael cynnig dau ddyddiad yr wythnos nesaf 28/29 Tachwedd i gyfarfod â'r cyflogwyr. Rydym yn ffyddiog y byddwn yn cael cynnig diwygiedig ar dâl a byddant hefyd yn mynd i'r afael â phroblem llwyth gwaith.

3. Dyddiadau Streicio (os bydd angen)
Er gwaethaf y cyhoeddiad, mae'n rhaid i ni aros am gynnig diwygiedig gan y cyflogwyr ac felly mae angen parhau i gynllunio ar gyfer pob peth a allai ddigwydd. Penderfynodd FESC yn ei gyfarfod ddydd Sadwrn 17 Tachwedd i roi hysbysiad gweithredu diwydiannol i'ch cyflogwr ynglŷn â thâl a llwyth gwaith. Bydd diwrnod cyntaf y streic ar 4 Rhagfyr, ac yna 13/14 Rhagfyr os na chaiff yr anghydfodau eu datrys. Cefnogwch yr alwad i weithredu.

4. Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC)
Mae EWC yn ymgynghori ar God Ymddygiad Proffesiynol ac ymarfer newydd. Byddwn yn ymateb i'r ymgynghoriad hwn, yn enwedig o ran problem cymharu ymddygiad yn y gweithle a'r tu allan iddo yn ei weithdrefnau ymddygiad. A fyddech mor garedig â chymryd pum munud i'w ddarllen - gallai effeithio arnoch ryw ddiwrnod a gallech fod mewn perygl o golli eich trwydded i ymarfer, a fyddai'n dod â'ch gyrfa yn AB i ben.


Best regards
Cofion gorau

UCU Wales
UCU Cymru

Last updated: 6 February 2019