Fighting fund banner

 

Wales email: 8 October 2019 / E-bost Cymru: 8 Hydref 2019

8 October 2019

In today's email:

  1. HE pay and equality and USS disputes: GTVO

  2. FE pay & workload dispute

  3. Researcher development Concordat launch - Wales

  4. Colegau Cymru report: building a better Wales - lessons from Europe

1. HE pay and equality and USS disputes: GTVO

We are now in the 5th week of the ballot period.  Officials from the UCU Wales have been out campaigning with branches to Get The Vote Out and will be visiting more branches in the next couple of week. Please get in touch if you would like someone to come and help out. Email Phil Markham. Please also get in touch to tell us about what and how you are doing with your get the vote out (GTVO) campaign.

We need to achieve over a 50% turnout in the ballot. Please stand up for education and a fair deal for HE staff by voting YES for action and YES to action short of a strike and show the employers we are prepared to stand up and be counted.

Please click on the following link to order your ballot if you haven't received it yet: here.

2. FE Pay & Workload dispute

  • Pay: The principals are meeting on 21 and 22 October and we have been informed that they will respond to our claim in writing on the 23 October. Arrangements are being made for JTUs to meet early in November to consider the response from principals.

  • Workload dispute: UCU are still in dispute over the UCU claim to reduce workload requirements for staff in the national workload agreement. A first draft of a proposed joint letter from CC and JTUs has been sent to CC for consideration by the principal's group. We asked that we get a quick turnaround but they have decided that it should be tabled at the meeting on 21 - 22 October, some three weeks hence. We are concerned that by the time the letter gets to the Minister decisions will already have been made by cabinet on how to spend the additional funding Wales will receive, approx. £23m as a consequence of the £400m announced by Boris Johnson for FE in England. CC will also be considering the proposals from the drafting group which looks at standardising the 20 minutes preparation and marking time in the full time contract, currently it's only referenced in the part time contract.

3. Researcher development Concordat launch - Wales

A launch event for the new researcher development Concordat is being held in Cardiff Marriott Hotel, Mill Lane, Cardiff on Wednesday 16 October 10am - 4pm. The event will look at how the new Concordat will reinforce and further challenge the sector to support researcher careers. It will also give delegates the opportunity to identify shared challenges and create a work programme to feed into the UK-wide Concordat activities. Please click on the following link to book a place: here.

4. Colegau Cymru Report: building a better Wales - lessons from Europe

Colegau Cymru have published an interesting report on Building a better Wales - lessons from Europe. The report, which sets out to explore the relationship between higher level skills and economic resilience, examines how Wales can make the most of the knowledge and experience shared by our partners in other European countries. You can access the report by clicking on the following link: here.

In solidarity / Mewn undod
UCU Wales / Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru


Yn e-bost heddiw:

  1. Cyflog a chydraddoldeb Addysg Uwch ac Anghydfodau Cynllun Pensiynau'r Prifysgolion: Annog pobl i bleidleisio

  2. Anghydfod ynghylch Tâl a Llwyth Gwaith Addysg Bellach

  3. Lansio Concordat i Gefnogi Datblygu Gyrfa Ymchwilwyr - Cymru

  4. Adroddiad Colegau Cymru: Creu Cymru well - gwersi o Ewrop

1. Cyflog a chydraddoldeb Addysg Uwch ac Anghydfodau Cynllun Pensiynau'r Prifysgolion: Annog pobl i bleidleisio

Rydym bellach wedi cyrraedd 5edd wythnos y cyfnod pleidleisio. Mae swyddogion o UCU Cymru wedi bod yn ymgyrchu gyda changhennau er mwyn annog pobl i bleidleisio a byddant yn ymweld â mwy o ganghennau yn ystod yr wythnosau nesaf. Cofiwch gysylltu os hoffech gael rhywun i ddod i helpu. E-bost Phil Markham. Cysylltwch â ni hefyd i roi gwybod i ni sut mae pethau'n mynd gyda'ch ymgyrch i annog pobl i bleidleisio a beth rydych yn ei wneud.

Mae angen i ni gyrraedd dros 50% o ran y ganran sy'n pleidleisio. Gweithredwch dros addysg a bargen deg i staff AU drwy bleidleisio IE i gamau gweithredu ac IE i gamau gweithredu nad yw'n cynnwys streic, gan ddangos i'r cyflogwyr ein bod ni'n barod i leisio'n barn.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i archebu'ch papur pleidleisio os nad ydych wedi ei gael eto: yma.

2. Anghydfod ynghylch Tâl a Llwyth Gwaith Addysg Bellach

  1. Tâl: Bydd y penaethiaid yn cyfarfod ar 21 a 22 Hydref ac rydym wedi cael gwybod y byddant yn ymateb i'n hawliad yn ysgrifenedig ar 23 Hydref. Mae trefniadau ar waith i'r Cyd-Undebau Llafur gyfarfod yn gynnar ym mis Tachwedd er mwyn ystyried ymateb y penaethiaid.

  2. Anghydfod ynghylch Llwyth Gwaith:  Mae UCU yn parhau mewn anghydfod dros hawliad UCU i leihau llwyth gwaith staff yn y Cytundeb Llwyth Gwaith Cenedlaethol. Mae drafft cyntaf o lythyr arfaethedig ar y cyd gan Colegau Cymru a'r Cyd-Undebau Llafur wedi cael ei anfon at Colegau Cymru i'w ystyried gan grŵp y pennaeth. Gwnaethom ofyn am ymateb cyflym, ond maent wedi penderfynu y dylid ei ystyried mewn cyfarfod ar 21/22 Hydref, rhyw dair wythnos yn ddiweddarach. Rydym yn poeni erbyn i'r llythyr gyrraedd y Gweinidog, y bydd penderfyniadau wedi cael eu gwneud yn barod gan y cabinet ynghylch sut i wario'r arian ychwanegol y bydd Cymru yn ei gael, sef tua £23m, o ganlyniad i'r £400m a gyhoeddwyd gan Boris Johnson ar gyfer Addysg Bellach yn Lloegr. Bydd Colegau Cymru hefyd yn ystyried cynigion gan y grŵp drafftio sy'n edrych ar safoni'r ddarpariaeth o 20 munud o amser paratoi a marcio yn y contract llawn amser; dim ond cael ei chrybwyll a wna yn y contract rhan amser ar hyn o bryd.

3. Lansio Concordat i Gefnogi Datblygu Gyrfa Ymchwilwyr - Cymru

Cynhelir achlysur lansio ar gyfer y Concordat newydd i Gefnogi Datblygu Gyrfa Ymchwilwyr yng Ngwesty'r Marriott, Mill Lane, Caerdydd ddydd Mawrth 16 Hydref rhwng 10am a 4pm. Bydd y digwyddiad yn dangos sut bydd y Concordat newydd yn atgyfnerthu gyrfaoedd ymchwilwyr ac yn herio'r sector ymhellach i gefnogi hynny. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i'r cynrychiolwyr nodi'r heriau sy'n gyffredin rhyngddynt a chreu rhaglen waith er mwyn cyfrannu at weithgareddau sy'n ymwneud â'r Concordat ledled y DU. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i archebu lle: yma.

4. Adroddiad Colegau Cymru: Creu Cymru well - gwersi o Ewrop

Mae Colegau Cymru wedi cyhoeddi adroddiad diddorol, Creu Cymru well - gwersi o Ewrop. Mae'r adroddiad, sy'n ceisio ymchwilio i'r berthynas rhwng sgiliau uwch a gwydnwch economaidd, yn ystyried sut y gall Cymru wneud y gorau o'r wybodaeth a'r profiad a rennir gan ein partneriaid mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Gallwch gael gafael ar yr adroddiad drwy glicio ar y ddolen ganlynol: yma.

Mewn undod
Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru

Last updated: 9 October 2019