E-bost Cymru: 12 Ionawr 2021 / Wales email: 12 January 2021
12 January 2021
Blwyddyn newydd dda! Croeso i e-bost Dydd Mawrth cyntaf Cymru yn 2021!
Yn e-bost heddiw:
Canllaw arferion da newydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA): Bod yn agored ac yn onest fel gweithiwr proffesiynol addysg
Canllaw dysgu cyfunol a thudalennau datblygiad proffesiynol parhaus Llywodraeth Cymru
1. Canllaw arferion da newydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA): Bod yn agored ac yn onest fel gweithiwr proffesiynol addysg
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi llunio canllaw arferion da newydd ar gyfer pob cofrestrai. Nod y canllaw, bod yn agored ac yn onest fel gweithiwr proffesiynol, yw helpu i godi eich ymwybyddiaeth a'ch dealltwriaeth o feysydd allweddol yn eich bywyd proffesiynol a phersonol pan fydd disgwyl i chi fod yn agored ac yn onest. Mae'n bwysig eich bod yn darllen ac yn ymgyfarwyddo â'r arferion da diweddaraf ac arferion da eraill sydd ar gael yma.
2. Canllaw dysgu cyfunol a thudalenau datblygiad proffesiynol parhaus Llywodraeth Cymru
Mae Canllaw dysgu cyfunol a thudalennau datblygiad proffesiynol parhaus Llywodraeth Cymru bellach ar gael. Mae erthygl newyddion yr Hwb isod yn cynnwys dolenni i'r ddwy dudalen. Noder: mae erthygl yr Hwb a'r ddwy dudalen ar gael i'r cyhoedd a gellir eu gweld heb fodd angen mewngofnodi i'r Hwb.
- Erthygl Newyddion yr Hwb - Saesneg and Cymraeg.
Mae tudalen 'Dysgu a Sgiliau Ôl-16' Llywodraeth Cymru hefyd yn cyfeirio at amrywiaeth o ddeunydd sydd ar gael i'r cyhoedd y gall dysgwyr a rhieni ei ddefnyddio, ynghyd â darparwyr dysgu.
Mewn undod,
UCU Cymru
Happy new year! Welcome to the first Wales Tuesday email of 2021!
In today's email:
EWC's new good practice guide: being open and honest as an education professional
The Welsh government's blended learning guidance and continuing professional development pages
1. EWC's new good practice guide: being open and honest as an education professional
The Education Workforce Council has produced a new good practice guide for all registrants. The being open and honest as an education professional guide aims to help raise your awareness and understanding of key areas of your professional and personal life where openness and honesty is expected. It is important that you read and familiarise yourself with this latest and other good practice guides available here.
2. The Welsh government's blended learning guidance and continuing professional development pages
The Welsh government's blended learning guidance and continuing professional development pages are now available, the Hwb news article below contains the links to both pages. Please note that the Hwb news article and both pages are all publicly available and can be viewed without needing to log in to Hwb.
Hwb news article - English and Cymraeg.
The WG 'post-16 learning and skills' page also signposts a range of material which is publicly available and accessible by learners & parents as well as learning providers.
In solidarity,
UCU Wales
- PrintPrint this page
- Share