Fighting fund banner

 

Wales email: 2 November 2021 / E-bost Cymru: 2 Tachwedd 2021

2 November 2021

In today's email

  1. Climate demo: Cardiff, 6 November
  2. Update your membership records 

1. Climate demo: Cardiff, 6 November

UCU Wales is a part of the Cymru COP26 Coalition. We will be at this demonstration and march and encourage all members to join.

Date: Saturday 6 November 
Assemble: 12pm at City Hall
Rally: 1:30pm at The Senedd

On 6 November we will bring together movements from across the world to build power for system change. 

We will be putting indigenous, frontline and Global South communities front and centre. We need your help to amplify their voices and demands.

Wherever you are in the world, now is the time to join the fight for climate justice. We need all hands on deck: in workplaces, communities, schools, hospitals and across national borders.

So please join us on 6 Nov.

Links to Cardiff COP26 Facebook; Instagram; Twitter; website; WhatsApp

2. Update your membership records 
 
This is a timely reminder, at the start of the new academic year to check and update your UCU membership record.

Reasons to check your membership 3
 
When UCU ballots for industrial action, by law we gave to send the employer information on the number of members we are balloting by workplace and employment function (no names are included, so it is completely anonymous). The employer information is generated from the membership system.

If the information is incorrect and the employer picks up on it, it can lead to a legal challenge and potentially, an injunction to stop the ballot proceeding.

That is why it is essential that your employment information is correct; out of date workplace information could allow the employer(s) to scupper a ballot and any resulting industrial action.

How to check your membership

You can now access your membership details online via MyUCU our member services site, so it couldn't be easier to check and update your information at a time that it is convenient for YOU! 

If you haven't already used MyUCU you will need to register, but once you have you can update your information as necessary.

Yn e-bost heddiw:

  1. Gwrthdystiad Hinsawdd: Caerdydd, 6 Tachwedd
  2. Diweddaru eich cofnod aelodaeth

1. Gwrthdystiad Hinsawdd: Caerdydd, 6 Tachwedd
 
Mae UCU Cymru yn aelod o Glymblaid COP26 Cymru. Byddwn yn mynd i'r gwrthdystiad hwn ac yn gorymdeithio, ac rydym yn annog pob aelod i ymuno â ni.
 
Dyddiad: Dydd Sadwrn, 6 Tachwedd 
Cyfarfod: 12pm yn Neuadd y Ddinas
Rali: 1:30pm yn y Senedd

Byddwn yn dod â mudiadau o bob cwr o'r byd ynghyd ar 6 Tachwedd er mwyn mynnu bod y gyfundrefn yn newid. 

Bydd cymunedau brodorol, rheng flaen a De Byd-eang yn chwarae rhan ganolog. Rydym angen eich help chi i sicrhau bod eu lleisiau a'r hyn maent yn galw amdano yn cael eu clywed.

Ble bynnag yr ydych yn y byd, nawr yw'r amser i ymuno â'r frwydr am gyfiawnder hinsawdd. Mae angen pawb allan: mewn gweithleoedd, cymunedau, ysgolion, ysbytai ac ar draws ffiniau cenedlaethol.

Felly ymunwch â ni ar 6 Tachwedd.

Facebook; Instagram; Twitter; Gwefan; WhatsApp.

2. Diweddaru eich cofnod aelodaeth

Neges amserol yw hon i'ch atgoffa ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd i fwrw golwg dros eich cofnod aelodaeth gydag UCU a'i ddiweddaru. 

Rhesymau dros fwrw golwg dros eich aelodaeth 3

Pan fydd UCU yn pleidleisio dros weithredu diwydiannol, yn ôl y gyfraith rhaid i ni anfon gwybodaeth at y cyflogwr am nifer yr aelodau sy'n pleidleisio yn ôl gweithle a swyddogaeth o ran cyflogaeth (ni chaiff unrhyw enwau eu cynnwys, felly mae'n hollol ddienw). Caiff y wybodaeth i'r cyflogwr ei chynhyrchu o'r system aelodaeth.

Os bydd y wybodaeth yn anghywir a'r cyflogwr yn sylwi ar hyn, gall arwain at her gyfreithiol ac, o bosibl, at waharddeb i atal y bleidlais rhag mynd yn ei blaen.

Dyma pam mae'n hanfodol bod y wybodaeth am eich cyflogaeth yn gywir; gallai gwybodaeth nad yw'n gyfredol am weithle ganiatáu i'r cyflogwr/cyflogwyr ddifetha pleidlais ac unrhyw gamau gweithredu diwydiannol sy'n deillio o hynny.

Sut i fwrw golwg dros eich aelodaeth

Gallwch bellach weld manylion eich aelodaeth ar-lein drwy MyUCU, ein gwefan gwasanaethau i aelodau, felly ni allai fod yn haws bwrw golwg dros eich gwybodaeth, a'i diweddaru, ar adeg sy'n gyfleus i CHI!

Os nad ydych eisoes wedi defnyddio MyUCU bydd angen i chi gofrestru, ond unwaith y byddwch wedi gwneud hynny gallwch ddiweddaru eich gwybodaeth fel y bo angen.

In Solidarity / Mewn Undod

UCU Wales / Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru

Last updated: 2 November 2021