Fighting fund banner

 

Wales email: 26 February 2019 / E-bost Cymru: 26 Chwefror 2019

26 February 2019

In today's email:

  1. FE workload dispute update

  2. Support with immigration status for non-UK EU citizens in North Wales after Brexit

1. FE workload dispute update
There has been two meetings with CholegauCymru (CC) to discuss the claim UCU submitted on workload addressing the maximum number of weekly teaching hours, HE, tariffs for quality assurance, tariffs for course leadership roles and where new curricula is being delivered by a member of staff and we agreed the following schedule:

  • CC have agreed to produce a paper outlining the scope for drafting group to draft changes to national workload agreement. This paper will be ready for circulation to the joint trade union (JTU) side by March 5 to allow discussion before the main meeting with CC already in diaries for March 7. 

  • week commencing March 11: drafting group will meet to make drafting amendments to national workload agreement

  • week commencing March 18: further meeting with CC to consider, amend and agree the drafting group amendments to the national agreement.

  • UCU consultative ballot on whether to accept the changes and end dispute week commencing March 25 - April 5.

  • April 8: formal communication on  outcome of ballot with CC and JTUs.

2. Support with immigration status for non-UK EU citizens in North Wales after Brexit
North Wales Regional Equality Network, in partnership with BAWSO and the Immigration Advice Service, holds the Welsh Government's North Wales contract to provide support for non-UK EU citizens who may need help or support in sorting out their status after Brexit. Higher education is one of the major locations of EU citizens, so the Network is seeking our assistance to publicise this scheme as widely as possible across the sector in North Wales. Please make colleagues aware of this service; they do not have to be members of UCU to access this service.
 
In solidarity / Mewn undod      
UCU Wales / Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru


Yn e-bost heddiw:

  1. Diweddariad ar Anghydfod ynghylch Llwyth Gwaith Addysg Bellach

  2. Cymorth â statws mewnfudo i ddinasyddion yr UE yng Ngogledd Cymru na  fyddant yn rhan o'r DU ar ôl Brexit

1. Diweddariad ar Anghydfod ynghylch Llwyth Gwaith Addysg Bellach
Cynhaliwyd dau gyfarfod â Cholegau Cymru (CC) i drafod yr hawliad a gyflwynwyd gan UCU ynglŷn â llwyth gwaith, yn mynd i'r afael ag uchafswm nifer yr oriau addysgu wythnosol, AU, tariffau ar gyfer sicrhau ansawdd, tariffau ar gyfer rolau arwain cyrsiau a phan fydd aelod newydd o staff yn cyflwyno cwricwla newydd, a chytunwyd ar yr amserlen ganlynol:

  • Mae CC wedi cytuno i lunio papur yn amlinellu'r cwmpas er mwyn i'r grŵp drafftio lunio newidiadau i'r Cytundeb Llwyth Gwaith Cenedlaethol. Bydd y papur hwn yn barod i'w ddosbarthu i'r cyd-undebau llafur erbyn 5 Mawrth fel bod  amser i'w drafod cyn cynnal y prif gyfarfod â CC, sydd eisoes wedi'i drefnu ar gyfer 7 Mawrth.

  • Wythnos yn cychwyn 11 Mawrth, bydd y grŵp drafftio yn cyfarfod i ddrafftio diwygiadau i'r Cytundeb Llwyth Gwaith Cenedlaethol

  • Wythnos yn cychwyn 18 Mawrth, cynhelir cyfarfod arall gyda CC i ystyried, addasu a chytuno ar ddiwygiadau'r grŵp drafftio i'r cytundeb cenedlaethol.

  • Wythnos yn cychwyn 25 Mawrth - 5 Ebrill, cynnal pleidlais ymgynghorol UCU ar b'un a ddylid derbyn y newidiadau a dod â'r anghydfod i ben

  • 8 Ebrill, trafodaeth ffurfiol ar ganlyniad y bleidlais â CC a'r cyd-undebau llafur.

2. Cymorth â statws mewnfudo i ddinasyddion yr UE yng Ngogledd Cymru na  fyddant yn rhan o'r DU ar ôl Brexit
Mewn partneriaeth â BAWSO a'r Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo, mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru yn dal contract Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i ddinasyddion yr UE na fyddant yn rhan o'r DU, y gallai fod angen help neu gymorth arnynt i ddatrys eu statws. Addysg Uwch yw un o brif leoliadau dinasyddion yr UE, felly mae'r Rhwydwaith yn ceisio ein cymorth i hysbysebu'r cynllun hwn gymaint â phosibl ar draws y sector yng Ngogledd Cymru. Rhowch wybod i gydweithwyr am y gwasanaeth hwn; nid oes angen iddynt fod yn aelodau o UCU i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

In solidarity / Mewn undod      
UCU Wales / Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru

Last updated: 9 April 2019